Mae amaethyddiaeth
a Chefn Gwlad yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru a ffordd o fyw y
genedl.
Er dim ond tua 5%
o boblogaeth y Deyrnas Unedig (DU) ydy Cymru mae 9% o dir amaethyddol, 29% o'r
defaid, 12% o'r gwartheg sydd yn y DU i’w cael yng Nghymru gyda 60,000 o’n pobl
yn ffermio. .
Felly ar draws
rhannau helaeth o Gymru mae ffermwyr au busnesau yn hanfodol o fewn ein
cymunedau ac yn chwarae rôl bwysig i sicrhau
economi cryf a bywiog. Hefyd maent yn gwneud cyfraniad enfawr i warchod y tirwedd
a'r amgylchedd fel y gall cynifer ohonom fwynhau byw, gweithio neu ymweld â
chefn gwlad.
Yn ddiweddar bum yn
cyfrannu at y ddadl ar amaethyddiaeth a chefn gwlad yng nghynhadledd y
Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe ac fe dynnais sylw at rhai o'r heriau
presennol sy'n wynebu ffermio. ‘Roedd yr arbenigedd a ddangoswyd gan gyfranwyr
i'r ddadl yn drawiadol sy'n dangos pa mor bwysig yw amaethyddiaeth a'r economi
wledig i’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Cafwyd gyfraniad nodedig gan y cyn AS ar
gyfer Brycheiniog a Maesyfed Roger Williams ac ‘roedd yn amlwg fod eu wybodaeth
am y diwydiant yn sylweddol.
Yn anffodus nid yw'r swn gystal a ddylasai fod ar y fideo ond y pwyntiau wnes yn
y ddadl oedd:
Y sialens i
ffermio wrth yn ymdopi â cyfnewidioldeb y farchnad ac oherwydd y maent yn
bodoli mewn marchnad fyd-eang mae’r anwadalrwydd yn rhwym o ddigwydd. Dros yr
haf ‘roedd y gostyngiad mewn prisiau cig oen a llaeth wedi achosi ffermwyr i
wynebu'r amser heriol gan iddynt dderbyn
llai am eu cynhyrchion na'r gost o'i gynhyrchu. Felly rhaid i Lywodraeth Cymru o
hyd fod yn wyliadwrus a yn barod i gefnogi'r diwydiant pan fo'r fath cyfnodau yn
digwydd am gyfnod hir.
Pwysigrwydd
sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchu a phryderon amgylcheddol i sicrhau y
gall amaethyddiaeth fod yn gynaliadwy.
Er mwyn sicrhau
bod amaethyddiaeth gynaliadwy yn gweithredu yn llwyddianus o fewn cymuned
gynaliadwy dibynnir ar bedair elfen bwysig - cefnogi gwasanaethau gwledig a'r
economi, gofalu am yr amgylchedd, diogelu ein treftadaeth a sicrhau lefelau da
o incwm.
Heb os mae y gwahanol bolisïau
i ddatblygu busnesau a mentrau gwledig yn cael ei hyrwyddo gan yr Undeb
Ewropeaidd yn dda ac yn cyfrannu'n effeithiol i gefnogi'r economi wledig,
cymunedau, treftadaeth a thirwedd. Gwna’r Rhaglen Cynlluniau Datblygu Gwledig cyfraniad
amhrisiadwy. Mae’r cyllid a geir nid yn unig yn cefnogi y diwydiant
amaethyddol, ond hefyd busnesau megis twristiaeth a gwasanaethau gwledig
eraill.
Felly byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd y arwain at ganlyniadau difrifol yng nghefn gwlad.
I bwysleisio’r ffaith ar hyn o
bryd ar gyfartaledd mae ffermwyr yn dibynnu i fyny at 35 -50% o’u hincwm gros ar
cymorthdal yr Undeb Ewropeaidd. Amcangyfrifir pe bae y DU tu allan i’r Undeb
Ewropeaidd fe fyddai yn wir dyfodol llwm yn gwynebu ffermnio gan mae dim ond
tua 10-15% o ffermydd allai oroesi heb y lefelau presennol o gymorth.
Dyma’r cynnig a basiwyd yn y
gynhadledd:
Mae’r Gynhadledd yn
nodi bod:
1. Amaethyddiaeth a’i diwydiannau
ategol yn gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru, gyda gwerth ychwanegol gros
amaethyddiaeth i economi Cymru yn 2014 yn £374 miliwn.
2. Mae amaethyddiaeth yn darparu’r
asgwrn cefn i gymunedau cefn gwlad, sy’n ganolbwynt ar gyfer creu ffynonellau
eraill o incwm.
3. Y darogan yw y bydd Incwm Busnes
Cyfartalog Ffermydd yng Nghymru yn gostwng i £22,200 yn 2014-15, sy’n golygu
dirywiad o 24% o £29,300 yn 2013-14.
4. Mae cyfartaledd oed amaethwyr Cymru yn
parhau i godi o 60.26 yn 2013, o’i gymharu â 59.58 yn 2010, a 58.47 yn 2007, ac
mae’r bobl ifanc sy’n dechrau ffermio yn wynebu heriau sylweddol.
5. Mae’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn, ac
wedi bod erioed ers ei greu, yn gymhorthdal i gynhyrchu bwyd sydd o fudd i’r
manwerthwyr ac i’r defnyddwyr lawn cymaint, o leiaf, ag ydyw i’r prif
gynhyrchydd, ac mae’i berthynas ag incymau ffermydd yn gymhleth.
6. Cynhyrchu bwyd yw un o’r ychydig
prin o ddiwydiannau sy’n angenrheidiol ar gyfer yr anghenion dynol mwyaf
sylfaenol.
7. Mae yna ddatgysylltiad cynyddol
rhwng cymunedau gwledig a threfol gan esgor ar ddiffyg gwybodaeth sylfaenol am
gynhyrchu bwyd, a gall mentrau megis ‘Cows on Tour / Gwartheg ar Grwydr’, a
gyflwynwyd gan undebau amaethyddol, helpu i fynd i’r afael â hyn.
8. Mae amaethwyr sy’n dymuno moderneiddio’n
eu cael eu hunain fwyfwy’n wynebu rhwystrau cynllunio a all ymestyn y broses yn
annheg a lleihau cost-effeithiolrwydd y camau y mae arnynt angen eu cymryd i
gynnal busnes a all lwyddo.
9. Mae marchnadoedd bwyd byd-eang yn
gynyddol anwadal ac mae pwysigrwydd sicrwydd bwyd mor anhepgor ag y mae wedi
bod ar unrhyw adeg er 1945, gyda hunangynhaliaeth bwyd y DU tua 60%; gostyngiad
o ganran o thua 75% yn 1991.
Mae’r Gynhadledd yn
credu:
1. Ei bod hi’n bwysig cynnal
cynhyrchiant amaethyddol drwy gefn gwlad Cymru i gyd, yn cynnwys cynhyrchiant
iseldir ac ucheldir er lles cymunedau gwledig Cymru yn ogystal ag er lles
amaethwyr.
2. Gofalir am yr amgylchedd naturiol
orau drwy barhad ffermio sydd wedi’i deilwra i anghenion ardaloedd unigol, yn
cynnwys eu hanghenion amgylcheddol.
3. Bydd unedau modern mawrion ac
unedau ar raddfa lai sy’n gallu elwa o farchnata arbenigol yn angenrheidiol ac
yn fuddiol i Gymru a’i hamaethyddiaeth.
4. Dylid cefnogi amaethwyr i ganfod y
llwybr gorau at broffidioldeb a chynhyrchu cynaliadwy, yn dibynnu ar eu
sefyllfa unigol.
5. Dylai cefnogaeth i amaethwyr
barhau i gael ei rhoi i’r holl amaethwyr mewn ffordd deg er mwyn cynnal y
cydbwysedd rhwng bach a mawr, ucheldir ac iseldir.
6. Mae’n rhaid inni gydnabod y bydd
cyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn dal i ostwng ac y dylid ei ddefnyddio
mor effeithiol â phosibl gyda phwyslais ar gynnal cynhyrchiant priodol o fwyd.
7. Dylai cynnal sicrwydd bwyd fod yn
ganolog i unrhyw benderfyniadau amaethyddol a wneir yng Nghymru a dylai’r cyfryw
benderfyniadau bob amser ystyried eu heffaith hirdymor ar allu Cymru i barhau i
fwydo ei hun.
8. Dylid gwella prosesau cynllunio er
mwyn osgoi cymhlethdodau ac oediadau diangen, a ffafrio cynnal busnesau cadarn
o bob math i gynnal swyddi a safonau byw, gan barhau’n ddigon llym eu safonau i
ddiogelu cymunedau rhag datblygiad amhriodol.
9. Byddai pobl Cymru’n elwa petai
gwybodaeth am gynhyrchu bwyd yn cael ei gwneud yn fwy cyffredinol, yn enwedig o
oed cynnar.
Mae’r Gynhadledd yn
galw ar:
1. Lywodraeth Cymru i weithredu mentrau
polisi i amddiffyn amaethyddiaeth a chynhyrchiant bwyd ledled Cymru ac yn
enwedig i ymwreiddio cynhyrchu bwyd drwy ddefnyddio systemau addas ym mhob
penderfyniad amgylcheddol yng nghefn gwlad Cymru
2. rhwydwaith Cyswllt Ffermio i helpu
amaethwyr a pherchnogion tir ganfod y llwybr gorau i broffidioldeb a
chynaliadwyedd yn ôl eu sefyllfa, yn enwedig i gydnabod pwysigrwydd Swyddogion
Maes a harneisio gwybodaeth leol i fagu hyder a gwytnwch yn y sector ffermio,
gan leihau hyd yr eithaf ar y lefel o wasanaethau ymgynghori generig a ariannir
drwy Gyswllt Ffermio
3. Llywodraeth Cymru i
weithio ag awdurdodau lleol i wella’r broses gynllunio ar gyfer holl fusnesau
Cymru, er mwyn sicrhau'r oedi lleiaf posibl a chefnogaeth hirdymor ar gyfer cynaliadwyedd
cymunedau cyfain.
4. Adolygiad sylfaenol o ganllawiau Nodyn
Cyngor Technegol (TAN) 6 ar ‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy ’
er mwyn cyflawni gwir gynnydd wrth ddarparu tai cefn gwlad fforddiadwy ledled
Cymru, sy’n bwysig ar gyfer y rhai iau sy’n dechrau ffermio, yn ogystal â
darparu lle byw priodol i amaethwyr sy’n dymuno trosglwyddo i’r genhedlaeth
nesaf.
5. Llywodraeth Cymru i weithio ag Undeb
Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), Undeb Amaethwyr Cymru a Chlybiau Ffermwyr
Ifanc Cymru i gefnogi gweithgareddau’r Clybiau Ffermwyr Ifanc mewn ardaloedd
trefol ac i fynd â ffermio a chynhyrchu bwyd i mewn i ysgolion ledled Cymru a’r
tu hwnt i ddangos i blant o lefel gynradd, gwledig a threfol, sut y caiff
anifeiliaid eu magu a sut y caiff bwyd ei gynhyrchu a pha gyfraniad a wna hyn
at y genedl.
6. Llywodraeth Cymru i gynnal ei chefnogaeth i
ffermio ledled Cymru mewn modd teg, gan gofio anghenion cymunedau am sector
ffermio cryf ym mhob ardal, wrth i gyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin raddol
ostwng.
7. Adolygiad llawn o gynlluniau
amaeth-amgylcheddol i sicrhau eu bod yn cyflawni ffermio cynaliadwy a rheolaeth
amgylcheddol, ac i sicrhau eu bod yn cael eu cyllido’n llawn fel bod amaethwyr
yn cael eu gwobrwyo’n deilwng am y gwaith cadwraeth a wnânt.
8. Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhagor ar
gefnogaeth i bobl ifanc sy’n dechrau ffermio yng Nghymru, gyda phwyslais ar
gyfraniad potensial rhannu ffermio ac arwyddocâd daliadau amaethyddol ym
mherchnogaeth awdurdodau lleol ledled Cymru i ddarparu mynediad at y tir.