Gallai safonau mewn
perfformiad a darpariaeth addysg yng Nghymru fod yn well o lawer
Yn
gyffredinol y dyddiau hyn pan yn ffurfio barn ynghylch perfformiad annerbyniol neu
wael unrhyw sefydliad, corff cyhoeddus neu hyd yn oed unigolyn yr ymadrodd a
ddefnyddir yw 'ddim yn addas i’r pwrpas‘. Heb gwestiwn mae hyn yn berthnasol
bellach i’r Gweinidog Addysg Huw Lewis – ond ddof nol at y pwnc mewn post arall
cyn bo hir.
Mae'n deg
nodi bod arwyddion o welliant yn y ein hysgolion mewn materion megis presenoldeb,
triwantiaeth, lles disgyblion, agweddau ar addysgu a dysgu, hunanarfarnu a
chynllunio ar gyfer gwella a gostyngiad yn y gyfran o bobl ifanc nad ydynt mewn
addysg neu hyfforddiant mewn meysydd penodol.
Ond yn y maes allweddol sef y
safonau mae yna le sylweddol i wella. Yn wir mae’r Gweinidog Addysg presennol
a'i ragflaenydd yn cytuno â mi gydag un pwyntio at 'ddifaterwch' pan yn trafod
canlyniadau PISA a’r llall yn nodi 'gwendidau systemig' yn y gwasanaeth addysg.
Tra yn
edrych ar y pwyntiau allweddol a nodwyd gan Estyn yn yr adroddiad blynyddol
diweddara mewn perthynas a’r ysgolion a arolygwyd, mae’n deg i nodi fod
perfformiad yn erbyn nifer o ddangosyddion wedi gwella ‘ond yn raddol iawn’.
Dangosyddion megis cyfraddau presenoldeb, triwantiaeth a y bwlch mewn
perfformiad rhwng isgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a
disgyblion eraill yn lleihau.
Ond ar y
cwestiwn mawr sut mae’r plant a’r ysgolion yn perfformio wrth edrych ar y safonau mae yna bryderon yn dal i fod o hyd. Mae
yna heriau pwysig yn parhau megis:
Gostyngiad
mewn safonau yn yr ysgolion cynradd a arolygwyd a fod cyfran yr ysgolion
cynradd â ' safonau 'da' neu 'ardderchog' wedi gostwng i 6 o bob 10. Felly mae
4 o bob 10 yn 'ddigonol' yn unig (mewn geiriau eraill ocê!). Y broblem ganolog
oedd gwendid yn sgiliau rhifedd disgyblion a’r diffyg hyder y disgyblion o ran
defnyddio’r medrau hyn mewn pynciau eraill, ond mae’r sefyllfa hyn wedi bod yn
destun pryder ers blynyddoedd.
Dwed Estyn
fod safonau mewn llythrennedd wedi gwella 'ychydig' mewn perthynas a medrau
ysgrifennu y plant ond fod y gwelliant yn ‘fwy’ yn y Cyfnod Sylfaen nag yng
nghyfnod allweddol 2 ( disgyblion oedran 7 -9/10 ). Mae’r ffaith olaf yn bryder
parhaus.
Er bod y
safonau mewn ysgolion uwchradd yn gwella i’w gymharu a ‘pherfformiad cymharol
wan‘ y flwyddyn cynt, erys cryn ffordd i fynd. Dim ond 50% o'r ysgolion a
arolygwyd oedd yn cyflawni safonau 'rhagorol neu dda'. Felly, mae yna llawer
iawn ohonynt yn y blwch 'digonol' – yn amlwg, nid yw hynny'n ddigon da. Nodwyd bod
angen cyffredinol i wella safonau mewn mathemateg a rhifedd, yn ogystal â
darpariaeth ar gyfer y disgyblion mwy abl a dawnus.
Un ffaith
sydd yn sefyll allan yn Adroddiad Blynyddol Estyn ac o bosib sydd yn crynhoi y
sefyllfa sef ers 2010 mae yna nifer gynyddol o ysgolion ac angen monitro pellach arnynt yn dilyn eu harolygiad ‘craidd’
cychwynnol. Dwed yr adroddiad fod y nifer o ysgolion sy’m mynd mewn i gategori ‘gweithgarwch
dilynol’ wedi codi ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf. Dros bron yr ugain
mlynedd ’roeddwn yn arolygu ’roedd ymroddiad, a phroffesiynoldeb staff ysgolion
yn ddi gwestiwn ond yn amlwg mae angen mynd i’r afael a’r diffygion yn llawer
mwy treiddgar a grymus.
Cyfeiriwyd
hefyd at ddau agwedd oedd yn peri pryder sef y safonau mewn Cymraeg ail iaith ‘ddim
yn gwella’ ac nid yw ysgolion yn asesu gwaith disgyblion ddigon cywir a cadarn.
‘Roedd y rhain yn faterion o bryder drwy gydol y blynyddoedd yr oeddwn yn arolygwr, felly dim llawer wedi symud ymlaen.
Pan oeddwn
yn arolygu ‘roedd yr adroddiadau byth a beunydd yn tynnu sylw fod angen ar yr
ysgolion i wella cywirdeb a chysondeb gwaith asesu athrawon gan gynnwys yr
angen i esbonio’n glir i ddisgyblion sut i wella eu gwaith. Un peth arall oedd
yn amlwg yn gymharol amal pan wrth ein gwaith sef wrth edrych ar lyfrau’r
disgyblion yn ystod arolygiadau ’roeddwn yn canfod fod diffyg cyfatebiaeth rhwng
y lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol a nodwyd gan yr athrawon ac ansawdd gwaith y
disgyblion yn y dosbarth neu y llyfrau gwaith cartref.
Os ceir ddiffygion yn yr Asesu fe ganlyn diffygion mewn cyrraedd arfraniadau cywir sydd mor
hanfodol nid yn unig i’r disgyblion a’r rhieni ond hefyd sydd yn codi
cwestiynau am brosesau hunanarfarnu yr ysgol. Ymhellach nid oes gan arweinwyr
ysgolion, gan gynnwys y llywodraethwyr, wybodaeth cywir am berfformiad y disgyblion
ac felly ni allant farnu beth sydd yn gweithio’n dda er mwyn codi safonau a pherfformiadau.
Nawr nid oes
angen mynd ymhellach er mwyn dechrau deall pam mae Cymru mor isel lawr y tabl gymhariaeth ryngwladol ar safonau
addysg (PISA). Allan o 65 o wledydd mae y canlyniadau yn dangos yn y pynciau
craidd ( Cymraeg/Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth) fod Cymru yn 43 at y tabl,
Gogledd Iwerddon 33, Lloegr a'r Alban fwy neu lai yr un fath ar 25ain. Wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn
y proffesiwn addysg yn ceisio dweud bod cymariaethau o'r fath yn ddiystyr.
Esgus ydy hynny ac mewn gwirionedd y maent yn arwyddocaol dros ben ac fe geir
wendidau sylfaenol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig.
Wrth orffen
pan yn arolygu ‘roedd tua 70% o’r ysgolion bob amser yn cwyno am y diffyg
cymorth a chanllawiau proffesiynol yr oeddent yn gael gan eu hawdurdodau addysg
lleol. Roedd yn nodwedd gyffredin. Ond nid yw'n syndod oherwydd yn y
blynyddoedd diwethaf mae 9 awdurdod lleol, ar adegau amrywiol, wedi cael eu
gosod yn y categori mewn angen o 'mesurau arbennig' a hefyd bod angen cymorth
sylweddol arnynt er mwyn sicrhau gwelliant.
Ymdrinais â rhai o'r materion hyn yng nghynhadledd y
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Y peth a roddodd boddhad imi oedd gwrando ar
sawl un o'r cynrychiolwyr a siaradodd a oedd yn deall natur yr hyn sydd yn
ddiffygiol yn system addysg Cymru. Yr oedd yn drafodaeth wybodus.
Dyma y
cynnig polisi terfynol a cytunwyd arno ar ôl pasio sawl gwelliant:
Mae’r Gynhadledd yn nodi bod:
1. Cymru wedi colli tir yn sylweddol yn erbyn
gweddill y Deyrnas Unedig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, yn ôl
rhestrau PISA gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd;
2. Nid yw Llywodraeth Cymru’n pennu safonau
gofynnol ar gyfer ysgolion yng Nghymru;
3. Prifathrawon ac athrawon i
gyflawni’r canlyniadau gorau wrth roi hyblygrwydd a chefnogaeth iddynt, nid
drwy’u llethu â mân-reolau gan lywodraeth ganol;
4. Mae hi yn aml yn well gwella atebolrwydd a
pherfformiad drwy reoli risg, yn hytrach na thrwy gynyddu rheolaeth;
5. Effaith bositif Premiwm Disgyblion
Cymru, sydd, yn ôl dadansoddiad annibynnol, wedi arwain at “faint sylweddol o
weithgaredd newydd” a anelir at gefnogi disgyblion difreintiedig.
Mae’r Gynhadledd yn
credu:
1. Bod yn rhaid inni fod yn blaid
dros gyfleoedd, sy’n galluogi pobl ledled Cymru i wneud cynnydd yn eu bywydau.
2. Nad oes yna ddim yn flaengar
ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus gwael, ac mae’n rhaid inni ganfod ffyrdd newydd
ac arloesol o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n ochri â rhieni, disgyblion a
chleifion.
3. Y dylid rhyddhau unigolion oddi
wrth lywodraeth gyfyngol, a grymuso arweinwyr i arwain gan sicrhau bod safonau
gofynnol yn cael eu cyrraedd a bod atebolrwydd yn gryf ac yn dryloyw.
4. Dylid rhoi’r ymreolaeth i
brifathrawon wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eu disgyblion.
5. Mae gweithwyr proffesiynol ac
arbenigwyr yn gwybod yn well na gwleidyddion beth ddylid ei gynnwys yng
nghwricwlwm ysgolion a sut y dylid rheoli ysgolion.
6. Ni ddylid rhedeg ysgolion er elw, na’u
gweithredu gan gwmnïau preifat.
Mae’r Gynhadledd yn galw am:
1. cyflwyno monitro disgyblion
unigol, ac ar gyfer ysgolion nad yn ategu datblygiad pob disgybl i gael eu
gosod yn awtomatig mewn mesurau arbennig yn ddigonol.
2. Sicrhau bod plant yn cael y sylw
unigol y mae arnynt ei angen drwy gyflwyno dosbarthiadau ag uchafswm niferoedd
disgyblion o 25 ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1 (Dosbarth
Derbyn, Blwyddyn 1, a Blwyddyn 2).
3. Ehangu’r Premiwm Disgyblion i’n
targed o £2,500 y disgybl y flwyddyn rhwng 5 - 15 oed, ac i £1000 y disgybl y
flwyddyn o dan 5 oed.
4. Creu un awdurdod sengl i bennu
cynnwys y cwricwlwm yng Nghymru, yn annibynnol o ymyrraeth y Llywodraeth, gan
gynnal grymoedd Gweinidogol i bennu’r cyfeiriad cyffredinol ehangach.
5. Cyfarwyddyd ar Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd -cwricwlwm dros oes - llythrennedd ariannol, cymorth cyntaf a
sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, addysg wleidyddol, dinasyddiaeth ac addysg
rhyw a pherthynas sy’n briodol yn ol oed. .
6. Sefydlu Academi Arweinyddiaeth Cymru i hyrwyddo arweinyddiaeth o ansawdd
uchel a helpu arweinwyr gorau i weithio yn yr ysgolion mwyaf heriol.
7. Caniatáu i ysgolion sydd wedi dangos gwerthoedd allweddol arweinyddiaeth,
arloesi a gwella i ennill pwerau newydd ac ymreolaeth oddi wrth lywodraeth lleol
a Llywodraeth ganolog, darparu ganddynt hanes amlwg o ragoriaeth. Dylid gwneud
hyn mewn ffordd sy'n nid yw yn lleihau gallu'r awdurdodau lleol a etholwyd yn
ddemocrataidd i deg ac yn effeithiol reoli'r ddarpariaeth o leoedd ysgol ar
draws yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu, neu i ymyrryd lle bo angen i
sicrhau bod y ddarpariaeth o safonau addysgol priodol.
8. Cryfhau atebolrwydd drwy roi
grymoedd ychwanegol i lywodraethwyr ysgol i rybuddio, disgyblu neu ddiswyddo
prifathrawon nad ydynt yn bodloni targedau y cytunwyd arnynt ar y cyd.
9. Cyflwyno rhaglen Prifathrawon
Dawnus i ddenu’r arweinwyr gorau i’r ysgolion lle mae’u hangen fwyaf.
10. Ei gwneud hi’n ofynnol i
awdurdodau lleol sefydlu Byrddau Prifathrawon o fewn eu hardaloedd i helpu
ysgolion i wella ac i gynghori’r awdurdod lleol ar opsiynau o ran ymyrraeth a
chefnogaeth.
11. Galluogi mwy o reolaeth i
brifathrawon dros gyllideb eu hysgol.
12. Diddymu y consortia addysgol
rhanbarthol.
13. Sicrhau cynrychiolaeth etholedig
cymheiriaid o’r proffesiwn addysgu ar Gyngor y Gweithlu Addysg i sicrhau ei fod
yn atebol yn iawn